Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 11 Mawrth 2021
Amser:
12.50 -
15.25
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11088
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
John Griffiths AS (Cadeirydd) Dawn Bowden AS Huw Irranca-Davies AS Delyth Jewell AS Laura Anne Jones AS Mandy Jones AS |
Tystion: |
Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Hannah Blythyn AS, Y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Emma Williams, Llywodraeth Cymru Reg Kilpatrick, Llywodraeth Cymru Jane Hutt AS, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Alyson Francis, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Catherine Hunt (Ail Glerc) Chloe Davies (Dirprwy Glerc) Jonathan Baxter (Ymchwilydd) Osian Bowyer (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.
1.2. Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei fod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd.
1.3. Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai’n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Dawn Bowden AS yn Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.
2 Ymchwiliad i COVID-19 a’i effaith ar faterion sy’n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - sesiwn dystiolaeth gyda’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y canlynol:
· Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol
· Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol
· Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru
· Reg Mitchell-Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cydgysylltu Argyfwng Covid-19, Llywodraeth Cymru
3 Ymchwiliad i COVID-19 a’i effaith ar faterion sy’n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - sesiwn dystiolaeth gyda’r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
3.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y canlynol:
· Jane Hutt AS, y Dirprwy Weinidog a’r Phrif Chwip
· Alyson Francis, Dirprwy Gyfarwyddwr yr Is-adran Gymunedau, Llywodraeth Cymru
4 Papurau i’w nodi
4.1 Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â’r cyfarfod gweinidogol ynghylch Sectorau Gwaith Tai a Chynllunio Gofodol ar y Cyd, y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig (BIC)
4.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â chyfarfod gweinidogol Sectorau Gwaith Tai a Chynllunio Gofodol ar y Cyd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig (BIC).
4.2 Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â'r cyfarfod gweinidogol ynghylch Sector Gwaith Cynhwysiant Digidol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig
4.2.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â chyfarfod gweinidogol Sectorau Gwaith Cynhwysiant Digidol y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig (BIC).
4.3 Llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021
4.3.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol mewn perthynas â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.
4.4 Cyflwyniad ysgrifenedig gan CICAIR i'r ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru: Ymgynghoriad)
4.4.a Nododd y Pwyllgor y cyflwyniad ysgrifenedig gan CICAIR ar yr ymchwiliad i ddiogelwch tân mewn tyrau o fflatiau yng Nghymru (Papur Gwyn Llywodraeth Cymru - Adeiladau Mwy Diogel yng Nghymru: Ymgynghoriad).
4.5 Ymateb gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22
4.5.a Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn ac o'r cyfarfod ar 18 Mawrth 2021
5.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.
6 Ymchwiliad i COVID-19 a’i effaith ar faterion sy’n ymwneud â chylch gwaith y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau - trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
6.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2 a 3.